|
Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru. |
||
|
Cyrff rheoli bysgodfeydd lleol yw’r Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr ac y maent yn annog, yn cynnal ac yn rheoleiddio gweithgareddau’r pysgodfeydd môr hyd at 6 môr-filltir o’r lan. Fe’u sefydlwyd yn ystod y 1890au ac fe’u rheolir hwynt ar hyn o bryd, o dan y Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966. Mae’r Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr yn gorfodi deddfwriaeth Cenedlaethol a deddfwriaeth yr UE, ac yn gwneud a gorfodi is-ddeddfau lleol. Mae nifer o’r Pwyllgorau hefyd yn rantïon Gorchmynion Arwahanol a Gorchmynion Rheoleiddio sydd wedi eu hanelu at ddatblygu a rheoli meithrin pysgod cregyn. Mae’r Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru yn gweithredu dau Orchymyn o’r fath yn Afon Menai ac yn aber Afon Conwy. Mae’r Gorchmynion hyn yn sail i’r diwidiant meithrin cregyn gleision mwyaf yn y DG. Mae 12 o Bwyllgorau Pysgodfeydd Môr yng Nghymru a Lloegr a’r Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru yw’r mwyaf ohonynt. Mae’r Rhanbarth yn ymestyn dros 2,000 môr-filltir sgŵar (tros 600,000 o hecterwau), gyda 926 môr-filltir o arfordir rhwng Trwyn Cemaes yng Ngheredigion a Thrwyn Haverigg yng Nghymbria. Mae gan Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru gyllideb flynyddol o £605,866 ar gyfer 2003/2004. Ariannir y gyllideb hon gan ardoll ar 11 o awdurdodau lleol, ardoll a wnaethpwyd yn 1999 o dan Offeryn Statudol. Golygir hyn fod y Pwyllgor yn atebol yn ddemocrataidd gyda hanner o'r 38 aelod wedi eu penodi gan yr awdurdodau ariannu, tra bo’r hanner arall, a apwyntiwyd gan y Llywodraeth, yn cynrychioli diddordebau pysgota, diddordebau gwyddonol neu ddiddordebau amgylcheddol. Cyfarfyddir y Cyd-Bwyllgor dair gwaith y flwyddyn a chefnogir ei waith gan ddau Is-Bwyllgor sydd hefyd yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn. Cyflawnir dyletswyddau’r PPMGOLL&GC gan staff o 15 sy’n cynnwys y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog Pysgodfeydd sy’n cydlynu gwaith yr wyth Swyddog Pysgodfeydd, y Prif Wyddonydd, y Swyddog Bioamrywiaeth Morol, y Cyfrifydd, y Clerc a’r Ysgrifenyddes. Lleolir Cwch Patrôl y Pwyllgor, yr "Aegis," yng Nghonwy a bydd, gyda criw o dri Swyddog Pysgodfeydd ar ei fwrdd, yn patrolio dyfroedd y glannau. Mae pum Swyddog Pysgodfeydd wedi eu lleoli ar y lan yn patrolio’r arfordir a’r dyfroedd gyda’r glannau gan ddefnyddio beiciau gyriant pedair olwyn a chychod patrolio gyda’r glannau (cychod rwber or gwneuthuriad "Zodiac").
|
Y Rhanbarth |
|