PWYLLGOR PYSGODFEYDD MÔR GOGLEDD ORLLEWIN LLOEGR A GOGLEDD CYMRU
DEDDF RHEOLEIDDIO PYSGODFEYDD MÔR 1966
RHEOLIADAU (IS-DDEDDFAU) PYSGODFEYDD MÔR 1985
IS-DDEDDF 20 – CYFYNGU AR BYSGOTA CREGYN BYLCHOG YM MAE CEREDIGION
Mae’r Cyd Bwyllgor ar yr un pryd wedi diddymu ac ail-wneud Is-ddeddf 20 (Cyfyngu ar Bysgota Cregyn Bylchog ym Mae Ceredigion) er mwyn cysoni yr is-ddeddf â’r Gorchymyn Pysgota Cregyn Bylchog (Cymru) 2005 tra yn cadw yn ddinewid y cyfyngiadau pysgota presennol.
IS-DDEDDF 21 – GWAHARDDIAD AR LUSGO OFFER PYSGOTA AR HYD GWAELOD Y MÔR
Gwnaeth y Cyd Bwyllgor Is-ddeddf 21 newydd (Gwaharddiad ar Lusgo Offer Pysgota ar hyd Gwaelod y Môr) er mwyn ceisio darparu lefel amddiffyniad uwch ar gyfer y ffurfiau gwelyau sensitif yn ogystal â’r marchfisglod sydd i’w cael ar ran o wely’r môr ger arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn.
Gellir darllen yr is-ddeddfau yn eu cyfanrwydd yn y cyfeiriad isod, neu gellir ei sicrhau o’r cyfeiriad isod, yn rhad ac am ddim. Mae’r testun cyflawn hefyd ar gael ar www.nwnwsfc.org.
Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gwrthwynebu i gadarnhau’r is-ddeddf uchod anfon llythyr o wrthwynebiad at: Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaeth, Parc Cathays, Caerdydd. CF10 3NQ o fewn wyth diwrnod ar hugain ar ôl cyhoeddiad y rhybudd hwn a rhaid iddo yrru copi o’r datganiad o’i wrthwynebiad at Brif Weithredwr Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru.
Dyddiedig y 12fed dydd o Chwefror 2008.
Y Dr. Stephen Atkins, Prif Weithredwr, Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, Prifysgol Caerhirfryn, Caerhirfryn, Sir Gaerhirfryn. LA1 4YY