IS-DDEDDF 20
CYFYNGIAD AR BYSGOTA CREGYN BYLCHOG YM MAE CEREDIGION
Yn y rhan honno o’r Rhanbarth sy’n gorwedd oddi mewn i dair môr-filltir o’r llinellau sylfaen (fel yr oeddynt yn bodoli ar 25ain Ionawr 1983 yn unol â Gorchymyn y Cyfrin-Gyngor y Môr Tiriogaethol 1964 (c), fel y newidiwyd gan Orchymyn y Cyfrin-Gyngor (Newidiad) y Môr Tiriogaethol 1979 (d)) rhwng y ffin Ddeheuol ar Drwyn Cemaes (Lledred 52º 07.032’ Gogledd, Hydred 04º 43.853’ Gorllewin) a llinell a dynnir yn union i’r Gorllewin o Fraich y Pwll (Lledred 52º 47.776’ Gogledd, Hydred 04º 46.072’ Gorllewin)
(a) Ni chaiff unrhyw berson bysgota na chymryd cregyn bylchog (Pecten maximus) rhwng 1af Mehefin a 31ain Rhagfyr yn ystod unrhyw flwyddyn.
(b) Cymerwyd y lleoliadau o WGS 84 Datum.
Nodyn Eglurhaol nad yw’n rhan o’r Is-ddeddf: Gwaherddir pysgota cregyn bylchog oddi mewn i’r terfyn pysgodfa 3 milltir yn y rhan honno o’r Rhanbarth sy’n gorwedd i’r gorllewin ac i’r de o Fraich y Pwll ym Mhenrhyn Llŷn. Mae’r gwaharddiad yn cynnwys y cyfnod 1af Mehefin a 31ain Rhagfyr.