IS-DDEDDF 21
GWAHARDDIAD AR OFFER PYSGOTA A LUSGIR AR WAELOD Y MÔR
1. Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw offer pysgota a lusgir ar waelod y môr o unrhyw gwch pysgota yn yr ardal waharddedig yn ôl diffiniad paragraff 2.
2. Yr ardal waharddiedig yw yr holl ardal o fôr a gynhwysir oddi mewn i linellau syth sydd yn cysylltu’r lleoliadau isod:
(a) 520 56.909’ Gogledd 040 34.055’ Gorllewin
(b) 520 59.858’ Gogledd 040 38.782’ Gorllewin
(c) 520 55.455’ Gogledd 040 45.891’ Gorllewin
(ch) 520 52.928’ Gogledd 040 41.878’ Gorllewin
(d) 520 52.155’ Gogledd 040 43.359’ Gorllewin
(dd) 520 51.563’ Gogledd 040 42.372’ Gorllewin
a’r arfordir yn ystod gorllanwau mawr cymedrig rhwng lleoliadau (dd) ac (a).
3. Cymerwyd y lleoliadau o WGS 84 Datum.
Nodyn Eglurhaol nad yw’n rhan o’r Is-ddeddf: Mae’r Is-ddeddf hon yn ceisio darparu lefel uwch o amddiffyniad i’r ffurfiau gwelyau sensitif iawn a’r marchfisglod ar ran o waelod y môr oddi ar Gogledd Penrhyn Llŷn. Felly gwaherddir defnyddio pob offer pysgota a lusgir ar waelod y môr yn yr ardal ddynodedig.