|
Pysgod Cregyn Mae PPMGOLLaGC yn monitor stociau pysgod cregyn yn y Rhanbarth ac yn gorfodi’r ddeddfwriaeth sydd yn eu hamddiffyn. Cocos Cesglir cocos hefo jumbo (ystyllen hir gyda handlen sy’n cael ei siglo o ochr i ochr ar y tywod er mwyn dod â’r cocos i’r wyneb), a hefo cribyn. Rhoddir y cocos drwy ogor er mwyn i'r cocos anaeddfed ddisgyn yn ôl i'r gwely. Cesglir y cocos mewn sachau rhwyd ar gyfer eu cludo yn syth o’r gwely i broseswyr yn y DG ac Ewrop. Yn ystod y dair blynedd diwethaf bu mwy o gocos a chasglwyr cocos ym Mae Morecambe nac erioed o’r blaen. O ganlyniad, gwelwyd newid aruthrol yn y dull o reoli’r bysgodfa. Cyflwynid cynllun caniatáu ar gyfer sawl ardal gan y Pwyllgor Pysgodfeydd ac mae’r cynlluniau ar y gweill i ymestyn y cynllun hwn led led y Rhanbarth. Cregyn gleision Cesglir cregyn gleision â llaw yn y Rhanbarth. Ceir gwelyau mawr naturiol o gregyn gleision ym Mae Morecambe a ger arfordir Gogledd Cymru. Fodd bynnag, y bysgodfa cregyn gleision fwyaf yn y Rhanbarth yn ogystal â'r DG yw’r bysgodfa meithrin yn yr Afon Menai yng Ngogledd Cymru.Mae tyfiant y cregyn gleision yn elwa o hwsmonaeth dda. Mae’r amodau mwyaf ffafriol ar gyfer tyfu cregyn gleision yn newid yn ystod eu cylch bywyd. Hidlwyr bwyd yw cregyn gleision ac, o ganlyniad, nid yw'r rhai sy'n byw yn uchel ar y traeth yn tyfu cyn gyflymed a'r rhai hynnu sydd yn byw yn isel ar y traeth gan mai am gyfnod bur yn unig y maent o dan y dŵr. Fodd bynnag, cregyn tennau iawn sydd gan y cregyn gleision sydd o dan y dŵr am gyfnodau hir ac mae’r rhain yn fwy tueddol o gael eu hysglyfaethu. Y pysgodfeydd cregyn gleision mwyaf llwyddiannus yw’r rhai sy’n cael eu ffermio’n ofalus drwy symyd y cregyn gleision i’r mannau delfrydol tra maent yn tyfu. Mae’r bysgodfa cregyn gleision mwyaf ein hardal ni yn Afon Menai ac mae'r ardaloedd meithrin cregyn gleision mawr ar y naill ben i'r Afon. Lleoelir y rhain oddi mewn i "Orchymynion Pysgodfeydd" sy’n darparu amddiffyniad cyfreithiol i’r cregyn gleision er mwyn galleuogi eu meithrin ar wely’r môr. Cludir hâd y cregyn gleision i Afon Menai o welyau eraill yn y Rhanbarth gan gychod treillio pwrpasol a’i osod ar wely’r môr. Ceir amodau ardderchog i dyfu cregyn gleision yn Afon Menai, y man tyfu mwyaf yn y DG. Yn ystod 2003-4 cynhyrchwyd 15,000 tunell o gregyn gleision yma ac mae'r holl gregyn gleision yn cael eu hallforio i Ewrop. Pysgodfa Gorchymyn Arwahanol yw Pysgodfa Cregyn Gleision Conwy sydd yn cael ei rheoli gan 20 pysgotwr yn casglu’r cregyn gleision mewn ffordd draddodiadol trwy ddefnyddio cribinau hirgoes o gychod agored. Cynhyrchir tua 300 tunnell o gregyn gleision y flwyddyn, yn gyfangwlbl ar gyfer y farchnad gartref. Cimychiaid, Crancod bwytadwy a Chrancod llygatgoch Mae cychod yn cawella mewn sawl man yn y rhan Gymreig o Ranbarth y Pwyllgor yn ogystal ac ardal Barrow ac Ynys Walney. Er bod rhai pysgotwyr yn pysgota trwy gydol y flwyddyn dechreuir y prif dymor yn ystod y gwanwyn tua mis Ebrill wedi i’r tymor corgimychiaid ddod i ben. Mae’r tymor cwella yn dirwyn i ben yn raddol rhwng yr hydref a’r gaeaf. Cregyn moch Mae’r bysgodfa cregyn foch wedi cynyddu mewn pwysigrwydd yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac mae’r prif ardaloedd o amgylch Caergybi a Gogledd Cymru. Allforir y rhan helaeth o’r cregyn moch i Corea, ble mae galwad mawr amdanynt. Corgimychiaid Delir y corgimychiaid mewn cewyll ysgafn sydd ond yn ddigon trwm i symyd yn ysgafn dros wely’r môr. Mae tymor bur yn ystod yr hydref wedi'r tymor crancod a chimychiaid ddarfod a thymor hirach gwell yn y gwanwyn o fis Mawrth i fis Ebrill. Mae’r bysgodfa corgimychiaid yn un gymharol newydd gyda ychydig iawn o ymchwil cefndirol.
Pysgod Asgellog Ychydig o lusgrwydo sy’n digwydd yn Rhanbarth y PPMGOLLaGC a’r cychod pysgota â gwialen sy’n pysgota fwyaf yn y dyfroedd gyda’r lan. Draenogiaid y môr Mae’r draenogiaid y môr Cathod môr Mae'r cathod môr un cael eu dal gan bysgotwyr gwialen, trwy lusgrwydo ac mewn rhwydi masgu. |
Casglu cocos Gogro'r cocos
"Still Ostrea" LR111 yn treillio cregyn gleision ar Afon Menai
Cychod cregyn gleison Conwy c. 1913
Cimychiaid
Cregyn moch
Draenog y môr mewn rhwyd fasgu
|
|