|
Y Cwch Patrôl "Aegis" |
||
|
Ystyr "aegis" yw "tarian" neu "amddiffynydd" ac "aegis" oedd enw tarian Athena, y dduwies fôr Groegaidd. Adeiladwyd "Aegis" yn bwrpasol ar gyfer Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru. Mae ei dyluniad yn seiliedig ar fâd achub, yr Arun 53 troedfedd. Mae pant dwfn yn ei thu ôl i ddal cwch rwber zodiac 4.8m a roddir i mewn ac allan o’r dŵr ar ffrâm sydd yn llithro. Defnyddir y zodiac gan y Swyddogion Pysgodfeydd ar gyfer mynd ar gychod pysgota ac ar gyfer archwilio’r dyfroedd mwy bas ger y glannau. Gellir gorchuddio’r pant dwfn â llawr er mwyn creu man gweithio mawr pan ddefnyddir y cwch ar gyfer gwaith ymchwil. Gall yr "Aegis" gasglu gwybodaeth ynglŷn â ffurf gwely’r môr a’r cynefinoedd tanddwr. Mae arni gamera tanddwr ar gar llysg a phrosesydd RoxAnn hydro acwstig sydd yn rhoi gwybodaeth am y mathau o waelod môr. Gall yr offer hwn ddangos gwelyau cregyn gleision a physgodfeydd cregyn eraill. Gall y cwch drafeilio dros 500 milltir a bydd yn patrolio 900 môrfilltir o arfordir a 2000 môrfilltir sgwar rhwng Trwyn Cemaes, Ceredigion, a Thrwyn Haverigg, Cumbria. Mae’r "Aegis" angen criw o dri yn cynnwys y meistr, y peiriannydd a’r llongwr. Adeiladwyd "Aegis" gan Halmatic Cyf. yn Southampton gydag arian gan y GE a chynghorau sir y Cyd Bwyllgor. |
Zodiac Papa (ZP) Mynd ar fwrdd "Flowing Tide" LH152 |
|