Galeri 3
Hanesyddol
|
Ar fwrdd y "John Fell." |
Ar fwrdd y "John Fell II." |
Aelodau'r Pwyllgor - Dawson, Hopkinson and Wignall. |
Aelodau'r Pwyllgor - Hopkinson, Dawson and Pritchard. |
|
Swyddogion Pysgodeydd yn cynnal ergyd arbrofol oddi ar un o'r cychod ardal, efallai'r "Alice," c1920au. |
Swyddogion Pysgodfeydd yn gwneud arolwg o bysgod, c1920au. |
"James Fletcher" ym Mhorth Aethwy. |
Dosbarthiadau Morwraeth a Bywydeg Pysgod y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Sir Gaerhirfryn a'r Gorllewin
O'r 1900au hyd y 1920au hwyr, 1930au cynnar, arferai'r Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Sir Gaerhirfryn a'r Gorllewin gynnal dosbarthiadau Morwraeth a Bywydeg Pysgod ar gyfer y pysgotwyr. Cynhelid y dosbarthiadau cyntaf yn Lerpwl ond o Mawrth, 1900, ymlaen fe'u cynhelid ar Ynys Roe, Barrow-in-Furness. Arferai'r Pwyllgor Pysgodfeydd logi'r adeilad ar y dde yn y llun gan Cwmni Rheilffordd Furness ar gytundeb rhent chwe mis ar y tro. Y bwriad cyntaf oedd i'r labordy fod yn ddeorfa i bob mathau o bysgod a physgod cregyn.
Byddai'r cyrsiau am wythnos ar y tro a derbyniai'r pysgowyr 5/- am eu mynychu. Cawsant lyfryn gan y Pwyllgor Pysgodfeydd yn dangos holl gynnwys y cwch yn cynnwys lluniau a diagramiau. Erbyn y 1920au, derbyniai'r pysgotwyr 10/- am fynychu'r cwrs. Roeddynt yn cael eu cludo o'u hardaloedd yng nghwch patrôl y Pwyllgor Pysgodfeydd a'u gadael ar Ynys Roe am wythnos gyfan.
|
Labordy Morol y Pwyllgor Pysgodfeydd, Ynys Roe. |
Dosbarth Morwraeth a Bywydeg Pysgod, Ynys Roe, 1908. |
Dosbarth Morwraeth a Bywydeg Pysgod, Ynys Roe, 1926. |