CASGLU COCOS AR DRAETH LAFAN
Yn ystod y 72 awr ddiwethaf rhoddwyd cryn sylw gan y cyfryngau i bysgota cocos ar Draeth Lafan, Y Fenai, Gogledd Cymru. Mae pysgodfa Lafan yn bysgodfa hanesyddol ac o dro i dro, ceir cynhaeaf rhesymol yno.
Ail gychwynnodd pysgota ar Draeth Lafan ar 1af Medi, 2006, yn dilyn y caead tymhorol blynyddol led led Rhanbarth Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru. Gan ddisgwyl nifer helaeth o gasglwyr ar wely cymharol fychan, trefnwyd ymgyrch amlasiantaeth er mwyn ceisio lleihau’r effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol. Cyrhaeddodd tua 260 o gasglwyr gan ddisgwyl helfa dda tebyg i’r hon a gafwyd ym Mae Morecambe yn ystod 2002, ond wedi ychydig o ddyddiau fe ddaeth yn amlwg mai cywir oedd datganiad y Pwyllgor Pysgodfeydd mai digon o gocos ar gyfer agor y bysgodfa yn unig oedd yno. O ganlyniad, disgynnodd nifer y casglwyr i tua 100.
Dywed adroddiadau’r cyfryngau bod 100 o gasglwyr yn gweithio dydd a nos ac yn derbyn £40 y sach. Mae’r adroddiadau anghywir hyn wedi denu rhagor o gasglwyr i gymryd rhan mewn yr hyn yr oeddynt yn ei dybio i god yn helfa anferthol. Cyfartaledd o 40 o bobl yn unig a welwyd yn gweithio, gan amlaf yn ystod y dydd. Mae’r cyfryngau hefyd yn dweud bod y Cyngor Cefn Gwlad wedi galw am gau y gwelyau cocos oherwydd difrod amgylcheddol yn y fynedfa i’r traeth. Dywedodd y Prif Swyddog Pysgodfeydd, Martyn Boyce, "Rwyf wedi galw cyfarfod amlasiantaeth arall er mwyn ceisio datrys yn anghydfod rhwng y grwpiau amgylcheddol a’r gweithgaredd pysgota cyfreithlon sy’n digwydd mewn pysgodfa gyhoeddus. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau amgylcheddol o ddifri ond mae’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r pysgodfeydd rhynglanwol yn fratiog, o’r oes o’r blaen, ac nid yw’r rhan fwyaf o’r hyn sydd ei angen arnom yn bod ar hyn o bryd. Ers rhai blynyddoedd, mae’r Pwyllgor Pysgodfeydd yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn erfyn ar y Llywodraeth am rym foderneiddiedig ac effeithiol. Clywsom ni bod Papur Gwyn yn cael ei ryddhau y mis nesaf a fydd yn amlinellu y grym moderneiddiedig hyn ar gyfer y Pwyllgorau Pysgodfeydd yn Lloegr, tra mae dyfodol y ddau Pwyllgor Pysgodfeydd Cymreig eto i’w benderfynu. Fodd bynnag, fe barhawn ni i gydweithio yn agos â’r asiantaethau eraill er mwyn ceisio bodloni eu dyheadau.