Erlyn Pysgotwyr am Bysgota yn Anghyfreithlon
Yn ystod dau achos llys diweddar, clywodd Ynadon Llys Caernarfon fel y bu i Swyddogion Pysgodfeydd Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru ddod ar draws 4 pysgotwr proffesiynol ar Draeth Lafna. Roedd y 4 diffynnydd yn casglu cocos yn groes i Is-ddeddf 14 (caead tymhorol). Mae’r Is-ddeddf yn gwahardd casglu cocos led led Rhanbarth PPMGOLLaGC yn ystod y cyfnod 1af Mai hyd 31ain Awst bob blwyddyn.
Yn y gwrandawiad cyntaf, plediodd Mr G. Moss a Mr P. Parry, y ddau o Fae Colwyn, yn euog a derbyniodd y ddau ddirwyon o £300 yn ogystal â thalu costau o £70 yr un.
Yn ystod gwrandawiad diweddarach, clywodd yr Ynadon fel y bu i’r pedwerydd diffynnydd, Ms V. McDonald o Preston, fethu â dod i’r gwrandawiad cyntaf. Cafodd y fainc hi’n euog o bysgota yn anghyfreithlon a derbyniodd ddirwy o £650 yn ogystal â thalu costau o £70.
Dywedodd y Prif Swyddog Pysgodfeydd, Martyn Boyce, "Yn unol ag Is-ddeddf 14 mae’r holl welyau cocos led led y Rhanbarth ar gau yn ystod yr haf tra mae’r cocos yn bwrw grawn ac mewn gwendid. Gall unrhyw un sydd yn pysgota’r stociau bregus hyn ddisgwyl cael eu herlyn drwy’r Llysoedd."
Ar 22ain Chwefror, clywodd yr Ynadon yng Nghaernarfon sut y bu i Swyddogion Pysgodfeydd ddod ar draws Mr J. Little o’r Fflint tra yr oedd yn casglu cocos yn anghyfreithlon ar Draeth Lafan ger Bangor. Roedd ef a 4 arall wedi mynd ar y traeth i gasglu cocos yn ystod y cyfnod pan oedd y traeth hwnnw ar gau ar gyfer casglu cocos.
Mae pob gwely cocos yn Rhanbarth Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru ar gau ar gyfer casglu cocos yn ystod misoedd yr haf.
Cafodd yr Ynadon Mr Little yn euog a derbyniodd ddirwy o £300 a’i orfodi i dalu £70 o gostau. Yn ystod gwrandawiadau cynharach, cafwyd y pedwar pysgotwr arall a oedd gyda Mr Little hefyd yn euog o bysgota yn anghyfreithlon.