Erlyniad Pysgotwr o Borth Llechog am Rwystro Swyddog Pysgodfeydd.

Ar ddydd Mercher, 14eg Mehefin, 2006, yn Llys yr Ynadon, Llangefni, cafwyd Peter Jackson o Amlwch, Ynys Môn, yn euog ar ddau gyhuddiad o rwystro Swyddog Pysgodfeydd Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru.

Clwyodd y Fainc bod dau Swyddog Pysgodfeydd, ar 1af Medi, 2005, wedi gwylio Mr Jackson yn dod i’r lan o’i gwch ym Mhorth Llechog. Aeth un Swyddog Pysgodfeydd tuag at Mr Jackson wrth iddo gerdded i fynnu’r traeth â phwced yn ei law. Trodd Mr Jackson ar unwaith a rhedeg yn ôl i lawr y traeth i gyfeiriad ei gwch gan ddwy waith anwybyddu’r gorchymyn i aros er mwyn i’r Swyddog Pysgodfeydd edrych ar gynnwys y bwced. Tolltodd Mr Jackson gynnwys y bwced i’r môr er mwyn atal unrhyw arolwg o’r hyn yr oedd wedi ddal. Plediodd Mr Jackson yn ddi-euog gan ddweud mai ond golchi ei gwch yr oedd. Derbyniodd ddirwy o £200 ar bob cyhuddiad a gorfodwyd i dalu costau o £140.

Dywedodd y Prif Swyddog Pysgodfeydd Martyn Boyce, "Mae’r pysgodfeydd ger y glannau yn gwneud cyfraniad pwysig i’r economi lleol yn enwedig yng nghefn gwlad. Mae’r Swyddogion Pysgodfeydd yn gorfodi deddfwriaethau Ewropeaidd a Chenedlaethol ynghyd ag Is-dddeddau lleol. Mae’r rheoliadau hyn yn amddiffyn y pysgodfeydd cawella llewyrchus sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. Mae unrhyw un sy’n rhwystro’r Swyddogion Pysgodfeydd yn fwriadol rhag gwneud eu gwaith yn cyflawni trosedd ddifrifol a gallasant ddisgwyl cael eu herlyn drwy’r llysoedd."