Digwyddiad Llygredd Olew yn Afon Menai
Ar ddydd Sul 25ain Mehefin, 2006 gollyngodd tua 300 galwyn o gymysgedd o ddiesel, hylif generadur a thanwydd gwresogi i Afon Menai drwy bibell yn dod o waith trin dŵr gwastraff ar safle ffatri Friction Dynamics, Llanfair Is Gaer, Caernarfon.
Yn gynnar ar fore Sul rhoddodd cychiwr wybod am y stremp olew a ymestynai o Bont Britannia hyd at Abermenai. Gadawyd yr olew trwm ar y llinell gorllan y naill ochr i’r bibell tra bod yr olew ysgafn wedi aros ar wyneb y dŵr.
Y bibell yw ffin gorllewinol un o’r gwelyau yng Ngorchymyn Llymeirch, Cregyn gleision a Chlamiau (Gorllewin) Menai. Mae gweddill o welyau’r Gorchymyn yn ochr Môn o’r Afon Menai.
Dywedodd swyddogion y Pwyllgor Pysgodfeydd wrth ddeiliaid y gwelyau am y digwyddiad. Yn syth ar ôl dod i wybod am y digwyddiad bu swyddogion y Pwyllgor Pysgodfeydd yn cydweithio’n agos â chyrff eraill yn cynnwys yr MCA, Cyngor Gwynedd, Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Cyngor Cefn Gwlad. Caewyd ceg y bibell er mwyn atal rhagor o olew rhag gollwng. Mae swyddogion y Pwyllgor Pysgodfeydd yn parhau i gadw llygad ar yr arda yn enwedig y gwelyau pysgod cregyn a’r pysgodfeydd.
Tynnwyd y lluniau isod yn ystod y distyll ar ddydd Sul 25ain Mehefin, 2006.
|
Y bibell |
Olew ar y llinell gorllan i'r dwyrai o'r bibell |
Sachau llymeirch ar drestlau |
Llymeirch y Môr Tawel mewn sachau |
Ail Ddigwyddiad Llygredd Olew yn Afon Menai
Daeth adroddiad bod ail stremp olew yn Afon Menai yn gynar ar fore Sadwrn 9ed Gorffennaf. Deilliodd o'r un ffynhonell a'r stremp olew cyntaf ar 25ain Gorffennaf, pibell yn rhedeg o safle ffatri Friction Dynamics yn Llanfair Is Gaer, Caernarfon. Dywedir i'r glaw trwm ar y nos Sadwrn olchi olew oedd yn weddill yn y bibell wedi'r digwyddiad cyntaf. Gosodwyd rhwystr ar draws ceg y bibell er mwyn atal rhagor o olew rhag mynd i'r Fenai.
Rhoddwyd swyddogion PPMGOLL&GC wybodaeth am y digwyddiad i ddeiliaid y pysgod cregyn. Mae'r swyddogion yn dal i gadw llygad ar yr ardal yn enwedig ar y gwelyau pysgod cregyn ac ar y pysgodfeydd.
|
Yr ail ddigwyddiad - 9ed Gorffennaf |
Olew yn arllwys o'r bibell |
Y rhwystr yn ei le |
Y rhwystr yn dal olew - 13eg Gorffennaf |