Newyddion

Is-ddeddf 5 – Cynllun Hawliad Cocos a Chregyn Gleision

Mae nifer o bobl yn dilyn y Cwrs Hyfforddiant Diogelwch ar gyfer Casglwyr Blaen Draeth gan feddwl eu bod yn sicr o dderbyn hawliad. Nid yw hyn yn gywir.

Mae’r cynllun yn caniatáu rhannu 40 hawliad newydd yn 2007. Rannid yr hawliadau hyn eisoes.

Mae darpariaeth hefyd ar gyfer rhannu 40 hawliad newydd yn 2008. Mae’r rhestr aros ar gyfer yr hawliadau hyn bellach yn llawn.

Yr unig hawliadau a ganiateir eu dosbarthu cyn Medi 2009 yw adnewyddiad o hawliad 2006.

Mae’n drosedd hyd a lled Rhanbarth PPMGOLLaGC i bysgota cocos a chregyn gleision am elw neu rhoi gymorth i bysgota cocos a chregyn gleision heb hawliad dilys.

Cofnodir tramgwyddau is-ddeddfau fel tramgwyddau troseddol a gall y llysoedd ddodi dirwy hyd at £5,000 am bob tramgwydd.

Mae Is-ddeddf 5 yn ceisio gostwng niferoedd y gweithwyr manteisgar bur dymor, gostwng cyflymder casglu’r cocos er mwyn sicrhau ymarferion pysgota sefydlog a physgodfeydd cynhaliadwy.

Top