Astudiaeth Dagio Cimychiaid Gogledd Cymru - gwobr o £100
Yn ystod 2005, rhyddhawyd cimychiaid hefo tagiau côd yn ardal y Pwyllgor Psgodfeydd er mwyn darganfod rhagor am symudiadau’r cimychiaid hyn.
Cimwch
â thagMae’r tagiau wedi eu lliwio yn ôl eu hardaloedd ac mae côd wedi ei argraffu arnynt.
Rydym yn dal i gasglu gwybodaeth amdanynt. Os dewch o hyd i un, os gwelwch yn dda a wnewch chi yrru’r côd yn ogystal â’r dyddiad a’r lleoliad ( Lledred a Hydred GPS). Mae taflenni dychwelyd ar gael.
Mae’r wybodaeth yn ddefnyddiol iawn a mawr werthfawrogir eich cymorth. Cyhoeddir y canlyniadau a’r tueddiadau yn "Newyddion Cimychiaid" y Pwyllgor Pysgodfeydd.
Bydd pob adroddiad ynghyd â’i leoliad GPS a chôd y tag yn cael ei gynnwys mewn lotri yn niwedd mis Medi eleni (2006) am wobr ariannol o
£100.